Daw miloedd ar ddarfod am danynt

(Goruchafiaeth yr efengyl)
Daw miloedd ar ddarfod am danynt
  O hen wlad Assyría cyn hir, 
Preswylwyr yr Aipht ac Ethiopia,
  At Grist y Gwaredwr yn wir:
Cyflawnir y prophwydoliaethau,
  Daw'r holl addewidion i ben;
Fe dynir myrddiynau at Iesu
  Ddyrchafwyd rhwng daear a nen.

Yr holl freniniaethau a dreulir,
  A'r ddelw falurir i lawr;
Y gareg a leinw'r holl wledydd, 
  Ei chynnydd fel mynydd fydd mawr;
Cair gweled cenedloedd y ddaear
  Yn dyfod o bedwar cwr byd;
Ymofyn y ffordd tua Sïon
  Y bydd ei drigolion i gyd. 
Peter Jones (Pedr Fardd) 1775-1845

Tonau [9898D]:
Aberclydach (David Evans 1874-1948)
Bethel (alaw Gymreig)
Bryniau Caersalem (Richard Mills 1809-44)
Capel Newydd (W T Rees [Alaw Ddu] 1838-1904)
Elliot (John Ellis 1760-1839)
Hen Ddarbi (alaw Gymreig/Seisnig)

gwelir: Yr holl freniniaethau a dreulir

(The supremacy of the gospel)
Thousands shall come about to perish
  From the old land of Assyria before long,
Inhabitants of Egypt and Ethiopia,
  To Christ the true Deliverer:
Fulfilled are the prophecies,
  All the promises come to pass;
Myriads are being brought to Jesus
  Who was raised up between earth and sky.

All the kingdoms are to be spent,
  And the image to be broken down;
The stone will fill all the lands,
  Its growth like a mountain will be great;
The nations of the earth will get to be seen
  Coming from the four corners of the world;
Asking the way to Zion
  Will be all its inhabitants.
tr. 2009 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~