Dim lle yn y llety i Geidwad y byd

Dim lle yn y llety
    i Geidwad y byd!
Oer breseb anifail
    roed iddo yn grud;
  Câi mawrion gwlad Canaan
      eu dewis o le,
  Ond llety'r anifail
      gâdd Brenin y ne'!

O orsedd y nefoedd
    y daeth atom ni,
Angylion y nefoedd
    a folant ei fri,
  A Dduw ynddo wena
      mewn serch ar ein byd,
  Ond dynion yn rhoi iddo
      breseb yn grud!

O Iesu, Ti gei
    ein calonnau bach ni
Am byth ar y ddaear
    yn gartref i Ti:
  Ti gei y man gorau
      a feddwn i fyw,
  A ninnau a'th folwn Di
      byth fel ein Duw.
David Adams (Hawen) 1845-1923

Tôn [10.10.10.10]: Dim Lle yn y Llety (P H Lewis)

No room in the lodgings
    for the Saviour of the world!
An animal's cold manger
    was given to him as a cradle;
  The great ones of the land of Canaan
      get their choice of a place,
  But the lodgings of the animal
      did the King of heaven get!

From the throne of heaven
    he came to us,
The angels of heaven
    praise his renown,
  And God in it smiling
      with affection on our world,
  But men giving to him
      a manger as a cradle!

O Jesus, Thou shalt have
    our small hearts
Forever on the earth
    as a home for Thee:
  Thou shalt get the best place
      we possess to live,
  And we shall praise Thee
      forever as our God.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~