Dod ar fy mhen dy sanctaidd law, O dyner Fab y Dyn; Mae gennyt fendith i rai bach Fel yn dy oes dy hun. Wrth feddwl am dy gariad gynt O Fethlehem i'r groes Mi garwn innau fod yn dda A byw er mwyn fy oes. Gwna fi yn addfwyn fel tydi Wrth bawb o'r isel rai; Gwna fi yn hoff o wrando cwyn A hoff o faddau bai. Dod i mi galon well bob dydd A'th ras yn fodd i fyw Fel bo i eraill drwof fi Adnabod cariad Duw. drwyof :: trwyof Eliseus Williams (Eifion Wyn) 1867-1926
Tonau [MC 8686]: |
Place on my head thy holy hand, O tender Son of Man; Thou hast a blessing for little ones As in thy own age. While thinking of thy love of old From Bethlehem to the cross I would love myself to be good And live for my age. Make me gentle like thee Towards all from the lowly ones; Make me enjoy hearing a plea And enjoy forgiving a fault. To come my heart more each day May thy grace be pleased to live That others may through me Know the love of God. :: tr. 2009 Richard B Gillion |
|