'Dwyf ond pererin tlawd a gwan I deithio o'r anial fyd i'r lan; Am hyn, rho i mi lechu o hyd Yn dawel yn dy fynwes glyd. Pan bo euogrwydd tanllyd, llym, Yn curo arnaf yn ei rym, Dadguddia im drysorau gras Yn ffrwd o'th ystlys ddaeth i maes. O! gād im ffoi i'r noddfa glyd Sydd uwch law uffern, uwch law'r byd, Dan gysgod y cyfammod rhad A seliwyd gynt ā dwyfol waed. Wel dyma'r lloches ddedwydd iawn Gaiff fod fy noddfa foreu a nawn, Heb un difyrwch is y nef Ond caru ac edrych arno ef.William Williams 1717-91
Tonau [MH 8888]: |
I am only a poor and weak pilgrim To travel up from the desert world; Therefore, grant me to lurk always Quietly in thy secure bosom. When the fiery, sharp guilt be Beating upon me in its force, Reveal to me the treasures of grace As a stream that came out from thy side. O let me flee to the secure sanctuary Which is above the hand of hell, above the hand of the world, Under the shadow of the free covenant Which was once sealed with divine blood. See here is a very happy refuge Which shall get to be my sanctuary morning and afternoon, With no comfort under heaven But to love and look upon him.tr. 2017 Richard B Gillion |
|