Dyfais fawr tragwyddol gariad

1,2,3,4,(5,(6));  1,2,(3,4),6;  1,2,(4);  1,2,5,(6).
(Hyder Pererin Cystuddiol)
Dyfais fawr tragwyddol gariad
  Ydwy'r iechydwrieaeth lawn;
Cyfamod hedd
    yw'r sylfaen gadarn,
  Yr hwn ni dderfydd byth mo'i ddawn:
Dyma'r fan y gorffwys f'enaid,
  Dyma'r fan y byddaf byw,
Mewn tangnefedd pur, heddychol,
  Ym mhob rhyw stormydd gyda'm Duw.

Syfled iechyd, syfled bywyd,
  Cnawd a chalon yn gytūn,
Byth ni syfl cyfamod heddwch,
  Hen gytundeb Tri yn Un:
Dianwadal yw'r addewid,
  Cadarn byth yw cyngor Duw;
Cysur cryf sy
    i'r neb a gredo
  Yn haeddiant Iesu i gael byw.

Būm yn ŵyndeb pob gorchymyn,
  Būm yn ŵyndeb angau glas;
Gwelais Iesu ar Galfaria
  Yn gwbwl wedi cario'r maes:
Mewn cystuddiau 'r wyf yn dawel,
  Y fuddugoliaeth sydd o'm tu,
Nid oes elyn wna i mi niwed;
  Mae'r ffordd yn rhydd i'r nefoedd fry.

Pethau chwerwon sydd yn felys;
  Twllwch sydd yn olau clir;
Mae 'nghystuddiau imi'n fuddiol,
  Ond darfyddant cyn bo hir:
Cyfamod hedd
    bereiddia'r cwbwl,
  Cyfamod hedd a'm cwyd i'r lan,
I gael gweld fy etifeddiaeth,
  A'i meddiannu yn y man.

Gwelais 'chydig o'r ardaloedd
  Yr ochor draw i angeu a'r bedd;
Synodd f'enaid yn yr olwg,
  Teimlais annherfynol hedd:
Iesu brynodd imi'r cwbl,
  Gwnaeth ā'i waed
    anfeidrol Iawn;
Dyma rym fy enaid euog,
  A fy nghysur dwyfol llawn.

Fy natur egwan sydd yn soddi
  Wrth deimlo prawf
      o'th ddwyfol hedd,
Ac yn boddi gan ryfeddod
  Wrth edrych 'chydig ar dy wedd;
O! am gorff, a hwnnw'n rymus,
  I oddef pwys gogoniant Duw,
Ac i'w foli
    byth heb dewi,
  A chydag Ef dragwydddol fyw.
Ym mhob :: 'Mhob
Yr ochor :: 'R ochor

Thomas Charles 1755-1814

Tonau [8787D]:
Dismissal (William L Viner 1790-1867)
Dismission (W F Wade c.1711-86)
Dre-hir (Edward Arthur 1874-1948)
Dusseldorf (F Mendelssohn 1809-47)
Edinburgh (alaw Gymreig)
Eryl (J Morgan Lloyd 1880-1960)
Rhewl-hir (D E Parry Williams 1900-96)
Salzburg (Jacob Hintze 1622-1702)

gwelir: Gwelais 'chydig o'r ardaloedd

(The Confidence of the Afflicted Pilgrim)
The great contrivance of eternal love
  Is the full salvation;
A covenant of peace
    is the strong foundation,
  This will be of never-failing ability:
Here is the place to rest my soul,
  Here is the place I will live,
In pure, peaceable tranquility,
  In all kinds of storm with my God.

Let health shift, let life shift,
  Flesh and heart agreeing,
Never will the covenant of peace shift,
  The old agreement of the Three in One:
Immutable is the promise,
  Firm forever is the counsel of God;
A strong comfort which is
    to everyone who believes
  In the merit of Jesus to get to live.

I was in the face of every commandment,
  I was in the face of bitter death;
I saw Jesus on Calvary
  Completely having carried the field:
In afflictions I am tranquil,
  The victory is on my side,
There is no enemy that can do me harm;
  The way is clear to the heavens above.

Bitter things are sweet;
  Darkness is as clear as light;
Afflictions are beneficial to me,
  But they will vanish before long:
The covenant of peace
    will sweeten the whole,
  The covenant of peace will raise me up,
To get to see my inheritance,
  And to possess it soon.

I have seen a little of the regions
  On the far side of death and the grave;
My soul marvelled at the sight,
  I felt unbounded peace:
Jesus bought the whole for me,
  He made with his blood
    an immeasurable Satisfaction;
Here is the strength of my guilty soul,
  And my full, divine comfort.

My weak nature is sinking
  On feeling an experience
      of thy divine peace,
And drowning with amazement
  On looking a little on thy countenance;
Oh for a body, and that a strong one,
  To endure the weight of God's glory,
And to praise him forever
    without being silent,
  And with him eternally to live.
::
::

tr. 2009,11 Richard B Gillion

~
O Salvation, full Salvation,
Howell Elvet Lewis (Elfed) 1860-1953
Sweet Singers of Wales 1889

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~