Dyrchafwn annherfynol glôd

1,2,3,4,5,6;  1,3,4,6.
(Anghyfnewidioldeb Duw)
Dyrchafwn annherfynol glôd,
  I'r unig Fôd trag'wyddol;
Y gwir anfeidrol Dduw a fedd,
  Bob priodeledd ddwyfol.

'Does dechreu i'w ei ddyddiau E',
  Nac i'w flyneddau ddiwedd,
Mae'n cynnwys trag'wyddoldeb maith,
  A'r holl greadigaeth ryfedd.

Yr un yw'r Duwdod mawr erioed
  Heb gysgod troedigaeth;
Yr un ym mhob perffeithrwydd yw,
  A'r un yw Duw'n ei arfaeth.

Cyfnewid mae ein bywyd brau,
  A'n hamgylchiadau beunydd;
Ond Duw ni thry; parhâu a wna
  Trugaredd yn dragywydd.

Adfeilia'r greadigaeth hon,
  A'r ddaear gron a gryna;
Ond ni heneiddia Duw y nef,
  A'i allu ef ni phalla.

Fy enaid, rho dy hun yn rhwydd,
  I ddwylaw'r Arglwydd bywiol;
A'i ddirfawr râs a fyddo'th ran,
  A'th nefoedd annherfynol.
Benjamin Francis 1734-99

[Mesur: MS 8787]

gwelir: Yr un yw'r Duwdod mawr erioed

(The unchangeability of God)
Let us lift up endless praise
  To the only eternal Being;
The true infinite God who owns
  Every divine attribute.

There is no beginning to His days,
  Nor to his years an end,
He encompasses a vast eternity,
  And the whole wonderful creation.

The same is the great Godhead ever
  Without a shadow of turning;
The same in every perfection he is,
  And the same is God in his purpose.

Changeable is our fragile life,
  And our surroundings daily;
But God will not turn; continue shall
  Mercy in eternity.

This creation shall decay,
  And the round earth shall tremble;
But the God of heaven will not age,
  And his power shall not fade.

My soul, give thyself freely,
  To the hands of the living Lord;
And his enormous grace shall be thy portion,
  And thy endless heaven.
tr. 2015,16 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~