Dyrchaist Arglwydd i'r uchelder

Dyrchaist, Arglwydd, i'r uchelder
  Eistedd wyt ar orsedd nef;
Mil o filoedd, rhônt yn gyson
  Glod i Ti ag uchel lef;
Ond ar ôl 'r ŷm ni yn crwydro,
  Yn ofidus mewn gwlad bell;
Anfon d'Ysbryd, fel y'n dyco,
  Bawb, i etifeddiaeth well.

Dyrchaist, Arglwydd, i'r uchelder
  Ar ôl troedio'n daear ni;
Ond dioddefaist warth a thlodi
  Drosom cyn it esgyn fry;
Felly ninnau, teithio'r ydym
  Trwy orthrymder maith a blin;
Ond, ar ôl ein dioddefiadau,
  Dwg ni atat Ti dy Hun.

Dyrchaist, Arglwydd, i'r uchelder,
  Eto deui yr ail waith
Gyda'th engyl a'r holl seintiau
  Yn y goruchafion maith;
Dysg ni, Arglwydd, o'th drugaredd,
  Felly i farw ac i fyw,
Fel y caffom y pryd hwnnw
  Weled iachawdwriaeth Duw.

Byth i'r Mab y bo gogoniant,
  Hwn sy'n eiriol drosom ni,
Ac i'r Tad, a'r Ysbryd Sanctaidd,
  Heb wahân yn Un, yn Dri:
Boed i'r Drindod y clodforedd,
  Fel yr oedd, ac fel mae'n awr,
O'r pryd hwn, heb ball na diwedd,
  Oesoedd tragwyddoldeb mawr.
Morris Williams (Nicander) 1809-74

Tôn [8787D]: Deerhurst (James Langran 1835-1909)

Thou didst rise, Lord, to the height
  Sitting art thou on the throne of heaven;
A thousand thousands, give constantly
  Praise to Thee with a loud voice;
But after our wandering,
  Grievously in a distant land;
Send they Spirit, that he may lead us,
  Everyone, to a better inheritance.

Thou didst rise, Lord, to the height
  After treading our earth;
But thou didst suffer disgrace and poverty
  For us before ascending above;
Therefore we too, travelling are we
  Through vast and grievous oppression;
But, after our sufferings,
  Bring us to Thee Thyself.

Thou didst rise, Lord, to the height,
  Again thou shalt come a second time
With thy angels and all the saints
  In the vast heights;
Teach us, Lord, of thy mercy,
  Thus to die and to life,
As we may at that time
  See the salvation of God.

Forever to the Son be glory,
  He who is interceding for us,
And to the Father, and the Holy Spirit,
  Undivided as One, as Three:
Let the acclaim be to the Trinity,
  As it was, and as it is now,
From this time, without fail or end,
  For great ages of eternity.
tr. 2018 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~