Dyro afael ar y bywyd

(Cri am fywyd)
Dyro afael ar y bywyd -
  Bywyd yw fy nghri o hyd;
Na'd fi gario lamp neu enw
  Heb yr olew gwerthfawr, drud;
Adail gref a'r Graig yn sylfaen -
  Arglwydd, dyro imi'n awr;
Llanw'm henaid â dy gariad
  Tra bwy'n teithio daear lawr.
Adail gref a'r :: Adeilad gref - yr
Llanw'm henaid â dy :: Llanw enaid i â'th
Tra bwy :: Tra fwy

Arthur Evans 1755-1837

Tonau [8787D]:
Bavaria (F Mendelssohn 1809-47)
Diniweidrwydd (alaw Gymreig)
Pisgah (David Evans 1874-1948)

(A cry for life)
Grant a grasp on the life -
  Life is my cry still;
Do not let me carry a lamp or name
  Without the valuable, costly oil;
A strong building with the Rock as foundation -
  Lord, grant to me now;
Flood my soul with thy love
  While I am travelling earth below.
A strong building with the :: A strong building - the
::
::

tr. 2014 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~