Ewyllys Duw yn amlwg yw

(Ewyllys Duw)
Ewyllys Duw yn amlwg yw
  Fod pob dyn byw'n gadwedig:
A dyma'r achos fod ein Ior
  I ddial mor hwyrfrydig.

Fe brofodd Iesu Grist ei hun
  Dros bob rhyw ddyn farwolaeth,
Fel gallai pawb gael cynyg têg,
  Ac adeg iachawdwriaeth.

Dywedodd, tyngodd f'Arglwydd Dduw,
  "Fel 'rwyf fi byw, nid hoffaf
Farwolaeth annuwiolion byd,
  Ond eu dychwelyd ataf."

Trowch, bechaduriaid, trowch at Dduw
  Y mae ef heddyw'n galw;
Mae'n cynyg bywyd! - O paham,
  Paham y byddwch feirw?
Cas. o Hymnau ... Wesleyaidd 1844

Tôn [MS 8787]: Rhuthyn
    (Benjamin M Williams 1832-1903)

(God's Will)
God's will is plain
  That everyone live as saved:
And here is the cause that our Lord is
  Reluctant to avenge.

Jesus Christ himself experienced
  Mortality for every kind of man,
So all may have a fine offer
  And an occasion of salvation.

He said, my Lord God swore,
  "As I live, I do not enjoy
The death of the world's ungodly,
  But their returning to me."

Turn, sinners, turn to God!
  He is calling today;
There is an offer of life - Oh why,
  Why will ye die?
tr. 2010 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~