Fry yn dy nefoedd clyw ein cri

("Pâr yn awr Lwyddiant")
Fry yn dy nefoedd clyw ein cri,
Pob gras a dawn sydd ynot ti;
  Nac oeda'n hwy dy deyrnas fawr,
  O Dduw ein Iôr, pâr lwydd yn awr.

Nid aeth o'n cof dy wyrthiau gynt,
y sanctaidd dân a'r bywiol wynt;
  Gwyn fyd na ddeuent eto i lawr,
  O Dduw ein Iôr, pâr lwydd yn awr.

Gwêl a oes ynom bechod cudd
A maddau ein hychydig ffydd;
  Mwy yw dy ras na’n beiau mawr:
  O Dduw ein Iôr, pâr lwydd yn awr.

Gad inni weld dy wedd a byw,
Gad wybod mai tydi sy Dduw;
  Gwisg wisgoedd dy ogoniant mawr,
  O Dduw ein Iôr, pâr lwydd yn awr.
Eliseus Williams (Eifion Wyn) 1867-1926

Tonau:
Angels' Hymn (Orlando Gibbons 1583-1625)
Berwyn (John Hughes 1896-1968)
Elim / Hesperus / Whitburn
    (Henry Baker 1835-1910)
Erromanga (O M Williams 1877-1958)
Mainzer (J Mainzer 1801-51)
Plaistow (Magdalen Chapel Hymns)

("Send now Prosperity")
Above in thy heavens hear our cry,
Every grace and gift comes from thee;
  Thy great kingdom will not tarry long,
  O God our Lord, provide a blessing now.

We have not forgotten thy former wonders,
The holy fire and the lively wind;
  O that they would come down again,
  O God our Lord, provide a blessing now.

Behold we have concealed sins
And forgive our smallness of faith;
  Greater is thy grace than our great sin:
  O God our Lord, provide a blessing now.

Let us see thy countenance and live,
Let us know that thou art God;
  Put on garments of thy great glory,
  O God our Lord, provide a blessing now.
tr. 2008 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~