Gelynion sydd o fesur mawr

(Ymnerthu yn yr Arglwydd)
Gelynion sydd, o fesur mawr,
Yn curo f'enaid bach i lawr;
  Rhaid imi gael dy nefol râs
  Cyn gallwy'n hollol gario'r maes.

Cref yw dy fraich, mawr yw dy rym, 
Nid oes a saif i'w herbyn ddim; 
  Gair o dy enau di dy hun
  Ladd fy ngelynion bob yr un.

Rho imi lechu'n dawel glyd,
Tu hwnt i sŵn fy meiau i gyd,
  Uwch twrf a themtasiynau'r llawr,
  Dàn gysgod dy gyfiawnder mawr.
f'enaid bach :: f'enaid gwàn
gallwy'n hollol :: gallwyf hollol
Dàn :: Tan

William Williams 1717-91

Tonau [MH 8888]:
Brynteg (John Ambrose Lloyd 1815-74)
Caernarfon (<1869)
Sebastian (D Vetter / J S Bach)
Spires (Martin Luther 1483-1546)
Wells (<1835)

gwelir:
  O nertha f'enaid gwan ei ffydd
  Pererin wyf tua Salem bur

(Being strong in the Lord)
There are enemies, of great measure,
Beating my little soul down;
  I must get thy heavenly grace
  Before I can completely carry the field.

Strong is thy arm, great is thy force,
There is nothing that can stand against it;
  A word from thy own mouth
  Shall slay my enemies every one.

Grant me to hide quietly securely,
Beyond the noise of all my faults,
  Above the din and temptations of the earth,
  Under the shadow of thy great righteousness.
my little soul :: my weak soul
::
::

tr. 2015 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~