1,(2),3; 1b,2,3. Gobaith yw angor f'enaid drud Wrth groesi cefnfôr garw'r byd; Mawr ydyw grym y gwynt a'r dòn I'm herbyn drwy y fordaith hon. [Mae'r "gobaith da" i'm henaid drud Yn angor ar fôr garw'r byd; Mawr ydyw grym y gwynt a'r dòn I'm herbyn drwy y fordaith hon.] Ond unig obaith f'enaid yw Addewid ddianwadal Duw; Mi daflaf f'angor yma i lawr, Yn nghanol tònau'r moroedd mawr. Os tonau ddaw, a gwyntoedd mwy Na'r rhai y cwrddais gynt â hwy, Mae gafael f'angor uwch y nen Yn Iesu, fry, tu fewn i'r llen. Thomas William 1761-1844
priodolwyd hefyd i | also attributed to
Tonau [MH 8888]: |
Hope is the anchor of my precious soul While crossing the rough ocean of the world; Great is the force of the wind and the wave Against me through this voyage. [The "great hope" for my precious soul is An anchor on the rough ocean of the world; Great is the force of the wind and the wave Against me through this voyage.] But the only hope of my soul is The immutable promise of God; I will cast my anchor down here, Amidst the waves of the great seas. If waves come, and winds more Than those I have met with before, My anchor will hold above the sky In Jesus, above, inside the curtain. tr. 2008,17 Richard B Gillion |
|