Gogoniant i Dduw Dad

("Sanct, Sanct, Sanct yw Argrwydd y lluoedd.")
Gogoniant i Dduw Dad,
  Yr hwn yn rhad a'n carodd;
Yn ol ei ewyllys radlawn Ef,
  Trugaredd gref a'n cofiodd.

Gogoniant i Fab Duw,
  A ddaeth yn fyw o'r beddrod;
Trwy rin ei ddwyfol Aberth Ef,
  Fe wnaeth ā'r nef ein cymmod.

Boed mawl i'r Ysbryd Glān,
  Ar beraidd gān dragwyddol;
Hwn sy'n bywhau, trwy ryfedd ras,
  Rai diras ac annuwiol.

I'r nefol Dri yn Un,
  Rhown yn gytūn ogoniant;
I'r TAD, a'r MAB, a'r YSBRYD GLĀN,
  Boed melus gān a moliant.
(Hymnau Hen a Diweddar -
    Casgliad y Parch Owen Jones ag ereill)

Tonau [MBC 6787]:
Dolgellau (<1875)
Frank (<1875)

("Holy, holy, holy is the Lord of hosts.")
Glory to Father God,
  He who freely has loved us;
According to his own free will,
  Strong mercy has remembered us.

Glory to the Son of God,
  Who came alive from the grave;
Throught the virtue of his divine Sacrifice,
  He made with heaven our covenant.

Let there be praise to the Holy Spirit,
  With a sweet, eternal song;
He it is who revives, through amazing grace,
  The ungracious and ungodly.

To the heavenly Three in One,
  Let us render in concert glory;
To the FATHER, and the SON, and the HOLY SPIRIT,
  Let there be a sweet song of praise.
tr. 2011 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~