Gwawriodd blwyddyn newydd eto

Gwawriodd blwyddyn newydd eto,
  O'th drugaredd, Arglwydd cu;
Llaw dy gariad heb ddiffygio
  Hyd yn hyn a'n dygodd ni:
Cawsom gerdded yn ddiogel
  Drwy beryglon blwyddyn faith;
Gwnaethost ti bob storm yn dawel
  Oedd yn bygwth ar y daith.

Dysg in fyw y flwyddyn yma
  Yng ngoleuni clir dy groes,
Gad in dynnu at y noddfa
  Sydd yn gysgod drwy ein hoes;
Boed grasusau pêr newyddion
  Gyda'r flwyddyn newydd hon
Yn blaguro yn ein calon
  Nes dwyn nefoedd bur i'n bron.
G Penar Griffiths (Penar) 1860-1918

Tôn [8787D]:
    Hamburg (J Schop c.1610-64 / F Filitz 1804-76)

A new year has dawned again,
  Of thy love, dear Lord;
The hand of thy love without tiring
  Until now has led us:
We got to walk safely
  Through the perils of long years;
Thou didst make every storm quiet
  Which was threatening on the journey.

Teach us to live this year
  In the clear light of thy cross,
Let us draw towards the refuge
  Which is sheltering through our lives;
Let new, sweet graces
  With this new year
Sprout in our heart
  Until bringing pure heavens to our breast.
tr. 2010 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh (corrections welcome). A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~