Gwelais 'chydig o'r ardaloedd

(Bodloni i Gystudd)
Gwelais 'chydig o'r ardaloedd
  Yr ochor draw i angeu a'r bedd;
Synodd f'enaid yn yr olwg,
  Teimlais annherfynol hedd:
Iesu brynodd imi'r cwbl,
  Gwnaeth â'i waed
      anfeidrol Iawn;
Dyma rym fy enaid euog,
  A fy nghysur dwyfol llawn.

Wedi cefnu ar
    bob rhyw stormydd,
  A'r tonnau mawrion oll ynghyd,
Tybiais fy mod yn y porthladd,
  Tu draw i holl ofidiau'r byd;
"O! fy Nhad," medd f'enaid egwan,
  "A gaf ti ddyfod i dy gôl,
A chanu'n iach i bob rhyw bechod,
  A'm cystuddiau i gyd ar ol?"

"Ust! fy mhlentyn, taw, distawa,
  Gwybydd di mai fi sydd Dduw;
Ymdawela yn f'ewyllys,
  Cred i'm gofal
      tra fych byw:
Os rhaid ymladd â gelynion,
  Myfi, dy nerth,
      a fydd o'th blaid;
Er gwanned wyt,
    cei rym i sefyll,
  A Mi'n gymorth wrth bob rhaid."

Bodlon ddigon, doed a ddelo,
  Ond dy gael i mi yn Dduw:
Rhoist dy Fab i brynu 'mywyd
  Trwy ddïoddef marwol friw;
Mi lecha'n dawel yn ei gysgod -
  Yng nghysgod haeddiant
      dwyfol glwy';
Darfyddaf byth
    âg oll sydd isod,
  Ac ymhyfrydaf ynot mwy.
Thomas Charles 1755-1814

Tonau [8787D]:
Dre-hir (Edward Arthur 1874-1948)
Eryl (J Morgan Lloyd 1880-1960)
Rhewl-hir (D E Parry Williams 1900-96)

gwelir:
  Boddlon fyddaf doed a ddelo
  Dyfais fawr tragwyddol gariad
  Edrych 'r wyf a hynny beunydd
  Wedi cefnu ar bob rhyw stormydd

(Being Resigned to Affliction)
I saw a little of the regions
  On yonder side of death and the grave;
My soul was surprise by the sight,
  I felt an unbounded peace:
Jesus purchased for me the whole,
  He made with his blood
      an immeasurable Satisfaction;
This is the strength of my guilty soul,
  And my full, divine comfort.

Having turned my back on
    every kind of storm,
  And the great waves altogether,
I supposed I was in the harbour,
  Beyond all the griefs of the world;
"O my Father!" said my weak soul,
  "Shall I get to come to thy bosom,
And bid farewell to every kind of sin,
  Leaving all my afflictions behind?"

"Sush, my child! Silence, be quiet,
  Know thou that I am God;
Quieten thyself in my will,
  Believe in my care
      while ever thou livest:
If there be need to fight with enemies,
  Even I, thy strength,
      shall be on thy side;
Although thou be so weak,
    thou shalt get power to stand,
  With me as a help in every need."

Sufficiently content, come what may,
  Only to get thee as my God:
Thou gavest thy Son to purchase my life
  Through the suffering of a mortal bruise;
I shall hide quietly in his shadow -
  In the shadow of the merit
      of a mortal wound;
I shall have done forever
    with all that is below,
  And boast in thee evermore.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~