Gyda'r saint anturiais nesu

(Cymundeb)
Gyda'r saint anturiais nesu
  Dan fy maich at allor Duw:
Bwrdd i borthi'r tlawd, newynog,
  Bwrdd i nerthu'r egwan yw;
Cefais yno megis gyffwrdd
  Corff drylliedig Iesu glân,
Yn y fan fe doddai 'nghalon
  Fel y cwyr o flaen y tân.

O fy Iesu bendigedig,
  Golwg iawn ar waed dy groes
Sydd yn toddi'r mawr galedwch
  Sy'n diffrwytho dyddiau f'oes;
Gad, O gad im, dirion Arglwydd,
  Fyw a marw yn dy hedd;
Bydd di oll yn oll i'm henaid
  Yma a thu draw i'r bedd.
Morris Williams (Nicander) 1809-74

Tonau [8787D]:
    Alexander (John Roberts 1806-79)
    Tanycastell (John Jones [Talysarn] 1796-1857)

(Communion)
With the saints I dared to draw near
  Under my burden to the altar of God:
A table to feed the poor, starving,
  A table to strengthen the weak it is;
There I got as if to touch
  The broken body of holy Jesus,
Soon my heart was melting
  Like the wax before the fire.

O my blessed Jesus,
  A good look at the blood of thy cross
Is melting the great hardness
  Which was withering the days of my life;
Give, O give me, gentle Lord,
  To live and die in thy peace;
Be thou all in all to my soul
  Here and beyond the grave.
tr. 2010 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~