Hoeliodd ddeddf yr ordeiniadau

(Cymmod)
Hoeliodd ddeddf yr ordeiniadau,
  Oedd i'n herbyn, wrth ei groes,
Ac yspeiliodd awdurdodau
  Uffern yno, dan ei loes. 

Rhwygai llen y deml pan rwygwyd
  Ei ddynoliaeth ar y pren,
I arwyddo fod tramwyfa
  Rydd o'r byd i'r nefoedd wen.

Ni raid allor,
    ni raid aberth,
  Lefiad nac offeiriad mwy,
Cafodd deddf drag'wyddol ddigon
  Yn haeddiannau mawr ei glwy.

            - - - - -

Hoeliodd ddeddf yr ordeiniadau
  Oedd i'n herbyn, wrth y groes,
Gan yspeilio'r awdurdodau,
  Pan yn goddef angeu loes;
Cododd faner wen trugaredd,
  Drylliodd gedyrn byrth y bedd,
Seiniodd Iubil lawn i'r caethion,
  Ac arlwyodd radlawn wledd.

Agoriadau y llywodraeth
  Grogwyd wrth ei wregys Ef;
Rhoddwyd iddo bob awdurdod
  Yn y ddae'r ac yn y nef;
Marchog mae yn ngherbyd cariad,
  Ei osgorddlu yw engyl nef:
Sigla cedyrn byrth
    y fagddu
  Hyd eu sail,
      wrth rym ei lef.
William Rees (Gwilym Hiraethog) 1802-83

Tonau [8787]:
St Oswald (John B Dykes 1823-76)
Sharon (<1875)

(Reconciliation)
He nailed the law of the ordinations,
  That was against us, to his cross,
And he spoiled the authorities
  Of Hell there, under his anguish.

The curtain of the temple would rend when
  His humanity was rent on the tree,
To signify that a passage was
  Free from the world to bright heaven.

No need of an altar,
    no need of a sacrifice,
  Levites nor a priest any more,
The eternal law was satisfied
  In the great merits of his wound.

                - - - - -

He nailed the law of the ordinances
  That was against us, to the cross,
And he spoiled the authorities,
  When suffering the throes of death;
He raise the white flag of mercy,
  He smashed the firm portals of the grave,
He sounded a full Jubilee for the captives,
  And he provided a fully gracious feast.

The keys of the government
  Were hung at His belt;
All authority was given to him
  On the earth and in heaven;
He rides in the chariot of love,
  His escort are the angels of heaven:
The firm portals of extreme
    gloom shall shake
  To their foundations,
      at the force of his voice.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~