Hyd atat Arglwydd nef

(Gwrandawiad gweddi - Salm 28)
  Hyd atat, Arglwydd nef,
    Dyrchafa'm llef i'r làn;
  Atolwg, gwrando'n fwyn
    Ar gŵyn fy enaid gwàn;
Fy Nuw na thaw
      tra bwy'n y byd,
Rho air mewn pryd rhag dygwydd braw.

  Bendigaid fyddo Duw,
    Fe glyw 'ngweddiau'n glan,
  Mae'n darian im' a nerth,
    Modd prydferth yn parhau;
Ei gymhorth gaf mewn adfyd tyn,
O herwydd hyn y llawenhaf.

  Dy etifeddiaeth fawr
    Bendithia'n awr, fy Nuw,
  A phortha di dy braidd
    Yn buraidd tra f'ont byw:
Dyrchafa hwy â chyfiawn hawl,
I ganu mawl i'th enw mwy.
Fy Nuw na thaw :: Fy Nghraig na thaw
tra f'ont :: tra b'ont

Thomas Williams (Eos Gwynfa / Eos y Mynydd) c.1769-1848

[Mesur: 666688]

(The hearing of prayer - Psalm 28)
  Unto thee, Lord of heaven,
    I will lift up my cry;
  I pray thee, listen tenderly
    To the complaint of my weak soul;
My God do not be silent
      while ever I am in the world,
Give a word in time lest terror happen.

  Blessed be God,
    He hears my prayers completely,
  He is a shield to me and strength,
    In a beautiful way to persist
His help I shall have in tight adversity,
Because of this I shall rejoice.

  Thy great inheritance
    Bless now, my God,
  And feed thy flock
    Purely while ever they live:
Exalt them with a righteous claim,
To sing praise to thy name evermore.
My God do not be silent :: My Rock do not be silent
::

tr. 2015 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~