Jehofa Jehofa trugarog yw Duw

(Trugaredd Duw)
Jehofa, Jehofa, trugarog yw Duw,
Graslawn a hwyrfrydig
    ei lid at ddyn byw;
  Bendithion trugaredd yn aml iawn y sydd,
  Mae profion o hyny
      yn helaeth bob dydd.

Trugaredd i filoedd nad ydynt yn bod,
Mae'n gadw fel trysor -
    boed iddo y clod;
  Mae'n maddeu anwiredd
      a chamwedd a bai;
  Gan hynny ein hyder
      rho'wn yddo bob rhai.
William Jones 1784-1847
Casgliad E Griffiths 1855

[Mesur: 11.11.11.11]

(The Mercy of God)
Jehovah, Jehovah, merciful is God,
Gracious and long-suffering
    his wrath towards living man;
  The blessings of mercy are very manifold,
  Experiences of this are
      plenteous every day.

Mercy to thousands who were without it,
He is keeping us like treasure -
    to him be the acclaim;
  He is forgiving untruth
      and trespass and fault;
  Therefore our confidence
      let us give to him every sort.
tr. 2018,19 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~