Mawr oedd Crist yn nhragwyddoldeb
Mawr oedd Iesu'n nhragwyddoldeb

1,2,(3,(4));  1,3,4.
Mawr oedd Crist yn nhragwyddoldeb,
  Mawr yn gwisgo natur dyn,
Mawr yn marw ar Galfaria,
  Mawr yn maeddu angau'i hun;
    Hynod fawr yw yn awr,
    Brenin nef a daear lawr.

Mawr oedd Iesu yn yr arfaeth,
  Mawr yn y cyfamod hedd,
Mawr ym Methlem a Chalfaria,
  Mawr yn dod i'r lan o'r bedd;
    Mawr iawn fydd ef ryw ddydd
    Pan ddatguddir pethau cudd.

Mawr yw Iesu yn ei Berson,
  Mawr fel Duw, a mawr fel dyn,
Mawr ei degwch a'i hawddgarwch,
  Gwyn a gwridog, teg ei lun;
    Mawr yw ef yn y nef
    Ar ei orsedd gadarn, gref.

Mawr yw Iesu yn ei swyddau,
  Mawr fel Archoffeiriaid glān
Mawr fel Prophwyd, mawr fel Brenin,
  Mawr fel Bugail o fy mlaen;
    Mawr yw'r gwaith Iesu a wnaeth,
  Fe gaiff glod dros oesoedd maith.
Crist yn :: Iesu'n
yw yn awr :: yw ef yn awr
Mawr iawn fydd :: Mawr a fydd
Fe gaiff glod dros oesoedd maith ::      
      Leinw'i glod y nefoedd faith

1,3: Titus Lewis 1773-1811
2,4: Casgliad D Jones 1810

priodolwyd hefyd i / attributed also to
Thomas Lewis 1759-1842

Tonau [878767]:
Bryn Myrddin (J Morgan Nicholas 1895-1963)
Groeswen (J Ambrose Lloyd 1815-74)
Moldavia (alaw Ellmynig)
Revel (Robert Ellis 1816-93)
  Toronto (<1962)   Wyddgrug (J Ambrose Lloyd 1815-74)

gwelir: Mawr oedd Iesu yn yr arfaeth

Great was Christ in eternity,
  Great wearing human nature,
Great dying on Calvary,
  Great vanquishing death itself;
    Especially great now,
    King of heaven and earth below.

Great was Jesus in his purpose,
  Great in the covenant of peace,
Great in Bethlehem and Calvary,
  Great coming up from the grave;
     Very great will he be some day
     When hidden things are revealed.

Great is Jesus in his Person,
  Great as God, and great as human,
Great his fairness and his beauty,
  Bright and ruddy, fair his appearance;
    Great is he in heaven
    On his firm, strong throne.

Great is Jesus in his offices,
  Great as holy High Priest
Great as Prophet, great as King,
  Great as Shepherd before me;
    Great is the work Jesus has done,
  He will get praise for vast ages.
Christ in :: Jesus in
::
Very great will he be :: Great will he be
He will get praise for vast ages ::      
      His praise shall fill the vast heavens

tr. 2009,15 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~