Moliannaf byth yr an(n)wyl Oen

1,2,(3,4).
(Moli yr Oen)
Moliannaf byth yr anwyl Oen;
Pa fodd y gallaf dewi a sôn?
  Rhoes laeth a mêl
      o'r Ganaan fry,
  A melus yw i'm henaid cu.

Fe'm rhoes i sefyll ar fy nhraed,
Lle'r own yn gorwedd yn fy ngwaed;
  Fe'm cododd fel o farw i fyw,
  Rhoes win ac olew yn fy mriw.

Cês enw newydd oddi fry,
Ar gareg wen; pa'm 'r ofnaf fi?
  Yr hwn nis edwyn neb yn iawn
  Ond a'i derbyniodd ef yn llawn.

Pa fodd am hyn nas canaf glod
I'r hwn a'm carodd cyn fy mod?
  O! seintiau ac angylion fry!
  Clodforwch chwi ef drosof fi.
1747 William Edwards 1719-89
Aleluia 1749

priodowyd hefyd i | also attributed to
William Williams 1717-91

Tonau [MH 8888]:
Boston (Lowell Mason 1792-1872)
Fulda (William Gardiner 1770-1853)
Kent (John Frederick Lampe 1703-51)
Lancaster (<1869)

(Praising the Lamb)
I will praise forever the beloved Lamb;
How can I be silent from mentioning?
  He gave milk and honey
      from the Canaan above,
  And sweet he is to my dear soul.

He gave me to stand on my feet,
Where I was lying in my blood;
  He raised me as from dead to alive,
  He put wine and oil in my wound.

I got a new name from above,
And a white stone; why shall I fear?
  This no-one shall know truly
  But one who received it fully.

How about this shall I not sing acclaim
To the one who loved me before I was?
  O saints and angels above!
  Extol ye him for me!
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~