'Nol disgwyl gronyn bach trwy ffydd, O'n rhwymau caeth cawn fyn'd yn rhydd; Fe dỳr y wawr, cawn oleu clir, Ar fynydd Sïon cyn bo hir. Er cwrdd a llawer awel groes, Tywyllwch du fel canol nos; Hi fydd yn oleu haulwen glir, Ar fynydd Sïon cyn bo hir. Er bod yn wan, ânt fawr a mân, I wlad yr hedd, trwy ddŵr a tân; Cânt fod dros byth, heb boen na chur, Ar fynydd Sïon cyn bo hir. Bydd cân am glwyfau'r Oen a'i loes, Heb delyn un a'i llais yn groes; Rhyw fawl hyfrydawl fydd yn wir, Ar fynydd Sïon cyn bo hir.Hymnau a Salmau 1840 (Goleu clir) Ond dysgwyl gronyn bach trwy ffydd Cawn fyn'd o'n rhwymau caeth yn rhydd; Fe dyr y wawr, cawn oleu clir, Ar fynydd Sïon cyn bo hir. Bydd canu am glwyfau'r Oen a'i loes, Heb delyn neb â'i llais yn groes; Rhad ras fydd swn y gân yn wir, Ar fynydd Sïon cyn bo hir.Casgliad o dros 2000 o Hymnau (Samuel Roberts) 1841 Tôn [MH 8888]: Eaton (Zerubbabel Wyvill 1763-1837) |
After waiting a little while through faith, From our captive bonds we shall get to go free; The dawn shall break, we shall get clear light, On mount Zion before long. Destpite meeting with many a cross breeze, Black darkness like midnight; It will be clear bright sunshine, On mount Zion before long. Despite being weak, great and small shall go, To the land of peace, through water and fire; They shall get to be forever, without pain or stroke, On mount Zion before long. There will be a song about the wounds of the Lamb and his anguish, Without anyone's harp having a cross voice; Some great delight shall be truly, On mount Zion before long. (Clear light) Waiting but a while through faith We shall get to go from our captive bonds free; The dawn shall break, we shall get clear light, On mount Zion before long. There will be a song about the wounds of the Lamb and his anguish, Without anyone's harp having a cross voice; Free grace shall be the sound of the song truly, On mount Zion before long.tr. 2017 Richard B Gillion |
|