Oes, oes, mae amser gwych I ddyfod nid yn mhell; Daw, daw i'r hen ddaearen Ddyddiau gwell Udgenir udgorn Jubili, Yn wych o'i hamgylch ogylch hi; Ac am y boreu gwaeddwn ni Henffych well Nid byth yr erys melldith rhyfel yn y tir; Y môr aflonydd ddaw yn dawel - Hyn sydd wir Ni welir milwyr dros y llawr, Ond milwyr da i Iesi mawr, Am hyn deisyfwn ninau'n awr Boed cyn hir Y byd o fagddu anwybodaeth Ddaw yn rhydd! Ac o ddynystriol haint anffyddiaeth Iach a fydd; Gogoniant pur ar dir, ar don A fydd y Grist dros ddaear gron; Cydlefwn ninau yr awr hon - Doed y dydd!Music Book of John W Williams 1852-3 Tôn [9393.88883]: Amser Gwell (<1853) |
Yes, yes, there is a brilliant time To come not far away; Come, come to the old earth will better days The Jubilee trumpet is to be blown, Brilliantly all around it; And for the morning we will shout All hail! Not forever shall rise the curse of war in the land; The restless sea shall become still - This is true Soldiers are not to be seen over the ground, But the good soldiers of great Jesus, For this let us petition now Let it be before long. The world from pitch-black ignorance Shall come free! And from the destructive infection of unbelief Whole shall be; Pure glory over land, over wave And Christ shall be across the round earth; Let us cry together this hour - Let the day come!tr. 2015 Richard B Gillion |
|