Profiad helaeth o dy gariad

Profiad helaeth o dy gariad
  Dyro i mi trwy fy oes;
Fel na byddo achos ofni,
  Na diffygio carrio'r groes:
Iesu cynnal f'enaid eiddil,
  I deithio'n wrol yn y blaen,
Tra f'wi byw mewn byd o ddrygau,
  Nes cael myn'd i Salem lān.

Arglwydd gād i mi gael profi,
  'Th dirion nawdd
     a'th nefol hedd,
Hyn yr ydwyt yn ei roddi,
  I dy saint tu yma i'r bedd:
Fy nhaer archiad ydyw hynny,
  Byw mewn undeb a thydi,
Trwy dy werthfawr ddiddefiadau,
  Gynt ar fynydd Calfari.
Diferion y Cyssegr 1804

[Mesur: 8787D]

A plenteous experience of thy love
  Grant to me througout my life;
That I may have no cause to fear,
  Nor fail to carry the cross:
Jesus, uphold my feeble soul,
  To travel bravely onwards,
While I am living in a world of evils,
  Until getting to go to holy Salem.

Lord, let me get to experience
  Thy tender protection
      and thy heavenly peace,
This thou art giving
  To thy saints on this side of the grave:
My insistent request is this,
  To live in unity with thee,
Through thy precious sufferings,
  Once on the mount of Calvary.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~