Rho'wn fawl i'r dwyfawl dad

(Carol Nadolig)
Rho'wn fawl i'r dwyfawl Dad
  Er gwir wellhad a llwydd,
Pereiddwych a'r Mab rhad;
  Ar ganiad rhoddiad rhwydd.
    Ben boreu glas,
      Moliannwn Dduw,
      oll o un ryw,
    yn llawn o ras:
    Heb oedi yn hwy,
      Rho'wn dan y rhôd,
      foreuol glod
    i'w farwol glwy.

Hosanna, dyma'r dydd,
  Fe'n rho'ed o'n
            cerydd caeth;
Y ffordd at Dduw drwy ffyd
  Ein Iesu'n rhydd a wnaeth:
    Gwir yw y gair,
      ca'dd T'wysog nèn,
      Neu Oen Nef wèn
    ei eni o Fair:
    Daeth ef mewn pryd
      i ddiodde'n ddwys,
      Yn fawr ei bwys
    dan feiau'r byd.

Wel dyma'r dedwydd bryd,
  Drwy'r hollfyd
            hyfryd hwyl;
Y dylem godi i gyd
  Yn awr i gaw gwyl:
    Am drossedd llawn,
      Anfeidrol Fod,
      gwnaeth er ei glod,
    mewn dyndod iawn:
    Iachawdwr byd,
      A gafwd gwn,
      y boru hwn
    a bery o hyd.

Wel dyma'r boreu glân,
  Yn gyfan Mab a ga'ed;
A hedd i fawr a mân
  Sydd yn ei wiwlan waed:
    Anwylyd hardd,
      Goddefai'n sèn,
      am fwyta o'r prèn,
    yn Eden ardd:
    Pob perchen ffydd,
      A gredo'n ddyws,
      caiff fyn'd i'r lwys
    Baradwys rydd.

Daeth i ni gysur gwych,
  Wrth wel'd y gwrthddrych gwiw;
Mae ef yn hardd ei ddrych,
  Goleuwych teg ei liw:
    Drwy ddioddef loes,
      Boddlonai ei Dad,
      A'r Nef yn rhad
    i ni fe'i rho'es:
    Gwir Gab Duw Tri,
      Fu'n dioddef cur,
      wrth wisgo'n bur
    ein natur ni!

'Roedd digter llawer llu
  I'n hanwyl Iesu o hyd;
Ni cha'dd y cyfion cu
  Ei barch fan y byd:
    Ni cha'dd i'w oes,
      Ond gwawd y Byd,
      ar bob rhyw bryd,
    o'i gryd i'w groes:
    Eneinniog Nef
      Am euog wŷn,
      trueni dyn,
    trywanwyd ef!

Ca'dd Iesu friwo ei fròn
  Bros Bentewynion tân;
I'w dwyn yn dyrfa lòn,
  I wledda'n Seion lân:
    Mae 'nawr i ni,
      Ryddhad o boen,
      trwy glwyfau'n Oen
    ar Galfari:
    Cyn tòri'r wawr,
      O do'ed i'n plith
      nefolaidd wlith,
    ei fendith fawr.

Rh'own oll i'r
          gwir Fab rhad,
  Addoliad ar ei ddydd:
I'w enw b'oed mawrhad,
  Yn wastad, rhediad rhydd;
    Daw angau a'i glêdd,
      Yn fuan tỳr,
      ein tymmor bỳr
    tu yma i'r bedd:
    Tra bo'm dan nèn,
      Rh'own glod bob awr,
      i enw mawr
    yr Iôn, Amen.
David Thomas (Dafydd Ddu o Eryri) 1759-1822
Corph y Gaingc 1810

[Mesur: "Clarenton"]

(Christmas Carol)
Let us render praise to the divine Father
  For true healing and prosperity,
Brilliantly sweet, and the gracious Son;
  In song of a free gift.
    At earliest morn,
      Let us praise God,
        all of one kind,
        full of grace,:
      Without delaying later,
        Let us render under the sky,
        morning acclaim
      to his mortal wound.

Hosanna, this is the day,
  He set us free from our
            chastisement of captivity;
The way to God through faith
  Our Jesus freely has made:
    True is the word,
      The Prince of the sky, or
      The Lamb of bright Heaven, is
    Born of Mary:
    He came in time
      to suffer intensely,
      Great his weight
    under the sins of the world.

Behold, here is the happy time,
  Throughout the whole world
            delightful joy;
We all ought to raise
  Now to keep festival:
    For full transgression,
      Infinite Being,
      did for his acclaim,
    in true humanity:
    The Saviour of a world,
      who was got, I know,
      this morning
    shall endure always.

Behold, here is the holy morning,
  In which, mainly, a Son was born;
And peace to great and small
  Are in his purely worthy blood:
    A handsome dear one,
      Would suffer our reproach,
      for eating from the tree,
    in Eden garden:
    Every possessor of faith,
      Who believes earnestly,
      will get to go to the pleasant
    free Paradise.

Excellent comfort came to us,
  By seeing the worthy object;
He is beautiful in appearance,
  Brilliantly, brightly fair his colour:
    Through suffering anguish,
      He satisfied his Father,
      And Heaven freely
    for us he gave him:
    The true Son of the threefold God,
      Suffered a blow,
      while wearing purely
    our nature!

There was the anger of many a host
  For our dear Jesus always;
The dear righteous one did not get
  His honoured place in the world:
    He did not get in his lifespan,
      But the scorn of the world,
      on every sort of occasion,
    from his crib to his cross:
    The Anointed of Heaven
      For guilty lambs,
      miserable men,
    he was pierced!

Jesus got injured in his breast
  For brands of fire;
To lead them as a cheerful throng,
  To the feast in holy Zion:
     There is now for us,
       Freedom from pain,
       through the wounds of the Lamb
     on Calvary:
     Before the dawn breaks,
       Oh, let the heavenly dew
       bring to our midst
     its great blessing.

Let us all render to the
          true, gracious Son,
  Worship on his day:
To his name let there be majesty,
  Constantly, a free flow;
    Come death and its sword;
      Soon shall break,
      our short season
    this side of the grave:
    While we are under the sky,
      Let us render acclaim every hour,
      to the great name
    of the Sovereign, Amen.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~