Rhyfeddod oedd, rhyfeddod yw! Ai'r unig ddyrchafedig Dduw, Gwir wrthrych mawl seraffiaid gwych, A welaf draw yn waelaf drych? Rhyfeddol iawn i'r nefol lu Oedd gweled eu Creawdwr cu Yn gwisgo natur wan ei rhyw, Yn waelaf ddyn, - anwylaf Dduw. Os rhyfedd gan angylion nef Oedd gweld ei bur ddynoldeb ef, Mae myrdd o ryfeddodau mwy Yn rhinwedd glān ei farwol glwy'! Ni all angylion nefoedd lon, Cerubiaid a seraffiad hon, Ac epil Adda oll yn un, Fynegi doniau Mab y Dyn. Uwchlaw gofidiau byd o boen, Fe ddwg y bendigedig Oen Ei brynedigion oll, ryw ddydd, O bob rhyw loes, i'r einioes rydd. O! am y ddedwydd, ddedwydd awr Pan ddyddio tragwyddoldeb mawr; Cawn wledda fyth ar rin ei glwy', A dechrau mawl heb ddiwedd mwy!Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) 1766-1850 [Mesur: MH 8888] gwelir: O'r nefoedd daeth ar fore clir |
A wonder it was, a wonder it is! Is it the only, exalted God, The true object of the praise of brilliant seraphim, I see yonder as the poorest sight? Very wonderful to the heavenly host Was seeing their dear Creator Wearing a weak sort of nature, As poorest man, - dearest God. If a wonder by the angels of heaven Was seeing his pure humanity, There are a myriad of wonders more In the holy merit of his mortal wound! Unable are the angels of cheerful heaven, These cherubim and seraphim, And the descendants of Adam all as one, To express the accomplishments of the Son of Man. Above world griefs and pain, The blessed Lamb will lead All his redeemed, some day, From every kind of anguish, to the free life. Oh, for the happy, happy hour, When great eternity becomes day! We will get to feast forever on the merit of his wound, And begin praise with no more ending!tr. 2015 Richard B Gillion |
|