Rhyw anifail wyf heb ddeall, A rhyw eiddil llesg heb rym, T'wyllwch dudew a ffieidd-dra, Nid oes ynof arall ddim; Iachawdwriaeth Râd i mi, neu golli'r nef. Tôr fy nghalon galed gyndyn Tôr hi'n awr yn ddrylliau mân: Tôr bob rhwystr sydd yn attal It' dy hunan dd'od ymlaen: Eistedd yma, A'th derynwialen yn dy law. Cymer, Iesu, fi fel yr ydwyf, Fyth ni allaf fod yn well; D'allu di a'm gwna yn agos 'Nhuedd i yw myn'd ymhell: Yn dy glwyfau Byddai'n unig fyth yn iach.William Williams 1717-91 [Mesur: 878747] gwelir: Cymer Iesu fi fel 'r ydwyf Gwaed dy groes sy'n codi i fyny |
Some animal am I without understanding, And some feeble faint one without force, Thick black darkness and loathsomeness, There is nothing else in me; Salvation Free to me, or losing heaven. Break my hard, stubborn heart Break it now into small pieces: Break every frustration that is preventing Thee thyself from coming forward: Sit here, With thy sceptre in thy hand. Take, me Jesus, as I am, Never can I be better; Thy power shall make me near My tendency is to go far afar: In thy wounds Alone would I ever be whole.tr. 2017 Richard B Gillion |
|