'Rwy'n chwennych gweld ei degwch Ef, Sy_uwch popeth is y rhod, Na welodd lluoedd nefoedd fawr Gyffelyb iddo 'rioed. Efe yw ffynnon fawr pob dawn, Gwraidd holl ogoniant dyn; A rhyw drysorau fel y mor A guddiwyd ynddo'i Hun. Mae 'nhymuniadau'n hedeg fry, Uwch crëadigol fyd, Heb weled dim o'r ddaear hon Yn werth i gael fy mryd. 'Rwyf yn hiraethu am gael prawf O'r maith bleserau sy Yn cael eu hyfed, heb ddim trai, Gan yr angylion fry. Fe'm ganwyd i lawenydd uwch Nag sy 'mhleserau'r llawr, I gariad dwyfol, gwleddoedd pur Angylion nefoedd fawr. O! pam na chaf fi ddechrau'n awr Fy nefoedd yn y byd, A threulio 'mywyd mewn mwynhad O'th gariad gwerthfawr drud? Na welodd :: Nas gwelodd A guddiwyd ynddo'i hun :: Sydd ynddo Ef ei un 'Rwyf yn hiraethu :: 'R wyf yn brefu nefoedd fawr :: nefoedd bur na chaf :: nas caf
Tonau [MC 8686]:
gwelir: |
I am yearning to see his comeliness, Which is above everything under the sky, The hosts of the great heavens have not seen His like ever. He is the great fount of every gift, The root of all man's glory; And the kind of treasures like the sea Which are hidden in Himself. My desires are flying up, Above the created world, Without seeing anything of this earth As worth getting my attention. I am longing to get an experience Of the vast pleasures which Get drunk, without any ebbing, By the angels above. I was born to joys higher Than are the pleasures of the earth, To divine love, pure feasts Of angels of great heavens. Oh why may I not begin now My heavens in the world, And spend my life in enjoyment Of thy valuable costly love? :: Which are hidden in Himself :: Which are in Him himself I am longing :: I am bleating great heavens :: pure heaven :: tr. 2010 Richard B Gillion |
|