Tosturia, nefol Dad, Wrth lais pechadur clyw; O'th fawr drugaredd gad I wrthryfelwr fyw; Yr un yw maddeu gyda thi Bechodau mawr, a'r lleia' o ri'. Os i'r trueni'r âf, Mi'th gyfiawnhâf yn hyn, Na's cefais, ac ni's câf, Ond haeddais i fy hun; Pechu a wnes yn ffiaidd gâs Trwy dorri'th ddedf, dirmygu'th ras. Ymddiried byth yr wyf (Ynglyn trueni trîst) Yn haeddiant marwol glwy', A gallu Iesu Grist; Ac hefyd dysgwyl wnaf bob dydd Fwynhau effeithiau bywiol ffydd. [ Am hyn ymddiried 'rwyf Yng ngallu Iesu Grist, Ac yn ei farwol glwyf I achub f'enaid trist; Ac hefyd dysgwyl wnaf bob dydd Fwynhau effeithiau bywiol ffydd.] Tor fy nghadwynau cas, Cyf 'rwydda 'nghamrau oll Yn llwybrau pur dy ras, Nad elwyf mwy ar goll: O dysg ac arwain fi'n ddifeth I wneud d'ewyllys yn mhob peth.Diferion y Cyssegr 1804 [Mesur: 666688] |
Have mercy, heavenly Father, To the voice of a sinner listen; Of thy great mercy let A rebel live; The same is forgiving with thee Great sins, and the least in number. If to the wretchedness I go, I will justify thee in this, I only got, and shall only get, What I myself deserve; Sin I did detestably Through breaking thy law, scorning thy grace. Trusting forever I am (Concerning sad wretchedness) In the merit of a mortal wound, And the power of Jesus Christ; And also expect I shall do every day To enjoy the effects of a lively faith. [ Therefore trusting I am In the power of Jesus Christ, And in his mortal wound To save my sad soul; And also expect I shall do every day To enjoy the effects of a lively faith.] Break my hated chains, Train all my steps In the pure paths of thy grace, I shall no more go astray: O teach and lead me unfailingly To do thy will in every thing.tr. 2019 Richard B Gillion |
|