Trugarog iawn yw'r Arglwydd Iôr, Ei ras sydd eang fel y môr; Yn fore rhydd faddeuant llwyr, Mae'n gado digter hyd yr hwyr. Daionus yw i bawb; fe ddyd Drugaredd ar Ei waith i gyd: Dy holl weithredoedd, Arglwydd Dduw, Glodforant fyth Dy enw gwiw. Y rhai a syrthiant dan eu clwy, Tydi sydd yn eu cynnal hwy; Tydi sy'n codi pawb i'r làn A ddarostyngwyd, ymhob man.William Thomas (Islwyn) 1832-78
Tonau [MH 8888]: |
Very merciful is the Sovereign Lord, His grace is wide like the sea; In the morning he gives complete forgiveness, He keeps his anger until the evening. He is good to all; he puts Mercy on all his work: All thy deeds, Lord God, Praise forever thy worthy name. Those who fall under their illness, 'Tis thou who art their support; 'Tis thou who dost raise up all Who were humbled, everywhere.tr. 2019 Richard B Gillion |
|