Tyred Iesu i'r ardaloedd, Lle teyrnasa'r dywyll nos; Na'd fod rhan o'r byd heb wybod, Am dy chwerw angau loes: Pa'm bydd poen, addfwyn Oen, Am dano yn eitha'r byd heb sôn? O gwna i mi brofi sypiau, Sypiau peraidd rawn y wlad, Blas maddeuant pur a heddwch, Gwleddoedd hyfryd tŷ fy Nhad, Dyma hwy, perlau mwy, Gloddiwyd yn ei farwol glwy. - - - - - 1,2,(3); 1,3,(4). Dyred, Iesu, i'r ardaloedd Lle teyrnasa tywyll nos; N'ad fod rhan o'r byd heb wybod Am dy chwerw angau loes: Pa'm bydd poen addfwyn Oen Am dano'n eithaf byd heb sôn? Aed i'r dwyrain a'r gorllewin, Aed i eitha'r India draw, I fod hoelion dur cadarnaf, Yn ei draed ac yn ei law, Doed y'nghyd, eitha'r byd, I wel'd tegwch dy wynebpryd. Doed Paganiaid yn eu t'wyllwch, Doed y Negroes dua'u lliw, Doed addolwyr yr eilunod I wel'd tegwch Iesu'n Dduw: Doed pob un, yn gyttun, Mewn i wleddoedd wedi eu trin. O darfydded Canaaneaid Mwy'i drigo yn y wlad; Na ddoed sillaf bach o enau Neb, ond am rinweddau'th waed: Deaed llu, heb ddim rhi', Fyth i ganu am Galfari.
Tonau [878767]:
gwelir: |
Come, Jesus, into the regions Where the darkness of night holds sway; Let not part of the world be unknowing About thy bitter deathly anguish; Why should pain, dear Lamb, Not be told about to the ends of the world? Oh make me experience clusters, The clusters of the sweet grapes of the land, The taste of pure forgiveness and peace, The delightful feast of my Father's house, Here they are, larger pearls, Buried in his mortal wound. - - - - - Come, Jesus, into the regions Where the darkness of night holds sway; Let not part of the world be without knowledge About thy bitter deathly anguish; Why should pain, dear Lamb, Not be told about to the ends of the world? May it go to the east and the west, May it go to the extremity of yonder India, To be the strongest steel nails, In his feet and in his hand, May the extremity of the world come together, To see the fairness of thy countenance. Let the Pagans come in their darkness, Let the Negroes of blackest colour come, Let the worshippers of the idols come To see the fairness of Jesus as God: Let every one come, in agreement, Into the feasts that have been prepared. O may the Canaanites perish Henceforth from dwelling in the land; Let no small syllable come from mouths Of anyone, but about the merits of thy blood: Let a host come, without any number, Forever to sing about Calvary. tr. 2013,18 Richard B Gillion |
|