Ym myddin dirwest awn ymlaen

(Gyda Duw)
Ym myddin dirwest awn ymlaen
  Drwy'n bywyd yn y byd,
Gan weithio'n gyson gyda Duw
  I achub euog fyd.

O cofiwn gorff ac enaid blin
  Y meddwyn truan tlawd;
Awn ato a dywedwn fod
  Yr Iesu iddo'n Frawd.

Fe gollir cysur cartref clyd
  Wrth yfed diod gref;
Fe gollir bywyd yn y byd,
  A chollir ffordd y nef.

O Arglwydd, rho Dy nerth i ni,
  I godi gwerin gwlad, -
A chymer yr afradlon lu
  Yn ol i dŷ ein Tad.
Ben Davies 1864-1937

Tôn [MC 8686]: Sawley (James Walch 1837-1901)

(With God)
In the abstinence army let us go on
  Throughout our life in the world,
Working constantly with God
  To save a guilty world.

O let us remember the weary body and soul
  Of the poor wretched drunkard;
Let us go to him and say that
  Jesus is a Brother to him.

The comfort of a cosy home is lost
  Through drinking strong drink;
Life is lost in the world,
  And lost is the way to heaven.

O Lord, give Thy strength to us,
  To raise the folk of a land, -
And take the prodigal host
  Back to our Father's house.
tr. 2018 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~