Yma cyfarfyddwn

(Mae Dy Air yn hyfryd)
Yma cyfarfyddwn,
  Arglwydd, yn dy dŷ;
Yma yr addysgwn
  Am y ffordd sydd fry;
Mae Dy Air yn hyfryd,
  Mae Dy Air yn bur,
Dyma lwybr bywyd,
  Tua'r nefol dir.

Ysgol Iesu hoffwn,
  Deuwn yma 'nghyd,
Yn Ei Air myfyriwn,
  Hwn sy'n llanw'n bryd;
Ynddo ymddigrifwn,
  Ynddo'r gwir a gawn;
Ynddo ymhyfrydwn,
  Ynddo llawenhawn.

Ynot y gobeithiwn,
  Arglwydd nef a llawr,
Trwy Dy Air addolwn,
  Ti, ein Hiesu mawr;
Ar Dy Air y pwyswn,
  Pa'm y byddwn drist?
Am Dy Air molianwn,
  Anwyl Iesu Grist.
William Samlet Williams 1846-1918

Tôn [6565D]: Mae Dy Air yn Hyfryd (Sydney Williams)

(Thy Word is delightful)
Here we meet,
  Lord, in thy house;
Here we learn
  About the way that is above;
Thy Word is delightful,
  Thy Word is pure,
Here is the path of life,
  Towards the heavenly land.

Of the school of Jesus we are fond,
  We come here together,
In His Word we meditate,
  This is what floods our mind;
In it we take interest,
  In it the truth we get;
In it we delight ourselves,
  In it we rejoice.

In Thee we hope,
  Lord of heaven and earth,
Through Thy Word we worship,
  Thee, our great Jesus;
On Thy Word we lean,
  Why would we be sad?
For Thy Word we praise,
  Dear Jesus Christ.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~