Ymleda teyrnas gras Trwy'r ddaear las fwy fwy, Pob gwynt a thòn sy'n gyru hon At fyrdd ga'dd farwol glwy'. Uwch, uwch o hyd yw sain Yr udgorn arian pur, Y delwau tlawd a'r llyfrau gau Bob dydd sy'n colli tir. Yn mlaen mae'r sain yn myn'd, Y meirw'n clywed sydd, A'r deillion, druain, 'nawr sy'n gwel'd Goleuni nefol ddydd. Allorau duwiau gau A'n ddrylliau mân i gyd, A chrefydd bur ar fyr a dd'wed Mai' heiddo hi yw'r byd.Joseph Harris (Gomer) 1773-1825
Tôn [MB 6686]: |
The kingdom of grace will expand Through the blue-green earth more and more, Every wind and wave are driving this To a myriad who got a mortal disease. Higher, higher still is the sound Of the pure silver trumpet, The poor images and the false books Every day which are loosing ground. Ahead the sound is going, The dead are hearing it, And the blind, wretched, are now seeing The light of heavenly day. The altars of false gods Go all to smithereens, And pure religion shortly will say That her possession is the world.tr. 2010 Richard B Gillion |
|