Yn nodded gras y nef Wynebwn ar y byd; Nid ofnwn ei drallodion ef, Na'i demtasiynau i gyd. Er maint ei lafur blin A'i aml ofidiau maith, Fe leddfa Duw yr arw hin, Fe ysgafnhâ y gwaith. Yn haeddiant gwaed y Groes Wynebwn orsedd Duw; Er amled yw pechodau oes Cawn yn ei gysgod fyw. Yng nghwmni Iesu Grist Wynebwn angau prudd; Try Ef y nos-gysgodau trist Yn hyfryd fore-ddydd, Wynebwn ar y bedd Ond cael yr Iesu'n rhan, Mewn gobaith deffro ar ei wedd, A chodi'n iach i'r làn. :: Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai) 1827-1895
Tonau [MB 6686]: |
In the protection of heaven's grace Let us face the world; Let us not fear its adversities, Nor all its temptations. Despite the extent of its weary labour And its frequent great fears, God will calm the rough weather, He will lighten the work. In the virtue of the blood of the Cross Let us face God's throne; Despite how frequent are sins of an age We may live in his shadow. In the company of Jesus Christ Let us face sad death; He will turn the sad night-shadows Into delightful morning. Let us face the grave But get Jesus as a lot, In hope of awakening in his sight, And rising safely to the shore. We may :: I would get to tr. 2010 Richard B Gillion |
|