Fugail da, mae'r defaid eraill Eto ‘mhell o'r gorlan glyd, Crwydro'n glwyfus ar ddisberod Maent yn nrysni'r tywyll fyd: Danfon allan dy fugeiliaid, Â'u calonnau yn y gwaith, Er mwyn cyrchu'r rhai crwydredig O bellterau'r anial maith. Hiraeth cyrchu'r defaid eraill Ynom ninnau elo'n fwy; Dylanwadau d'Ysbryd gerddo Ymhob eglwys drostynt hwy: Yma, yn ein gwlad ein hunain, Gwna ni'n llais dy gariad di, A sŵn achub myrdd myrddiynau Fyddo draw dros donnau'r lli. Maent i ddod, medd addewidion, O bob ardal dan y nen; Dwedaist tithau, "Rhaid eu cyrchu," Trengaist drostynt ar y pren. O er mwyn yr einioes roddwyd Ac er mwyn yr eiriol drud, Dwg i mewn y defaid eraill, Fugail da, i'th gorlan glyd.Howell Elvet Lewis (Elfed) 1860-1953 Tôn [8787D]: Cynllwyd (T R Williams 1866-1922) |
|
|