Y rhai a'i canlynodd efe

(Gogoniant yr Iesu yn y nefoedd - Rhan V)
Y rhai a'i canlynodd efe
  Trwy'r ffauau a'r
      fflamau'n ddi-grỳn,
Y rhai gynt a nofiasant i'r nef
  Mewn afonydd o'u twymn waed eu hun,
Sy'n awr yn cael myned yn mlaen
  Yn ëofn at orsedd yr Iôn;
A chanu bob amser y maent
  Ganiadau newyddion i'r Oen.

Ddaw syched, na newyn, na phoen,
  Na gofid, na galar, na chlwy',
Nac anwyd, yn nheml yr Iôn,
  Na gwrês idd eu blino byth mwy:
Mae yno adenydd fy Iôn
  Yn taenu fel nefoedd ar lêd, 
Yn cuddio priodferch yr Oen:
  O! f'enaid, i fyny ehêd.

'R wy'n teimlo rhyw hiraeth a chwant
  Gwel'd dattod fy mhabell o'i lle,
A hedeg yn union i bant,
  Fel 'deryn, i ganol y ne';
A neidio i mewn yno i blith
  Y dyrfa sy â'u gwisgoedd yn wỳn,
A chanu i'm Harglwydd i byth
  Fu farw ar Galfari fryn.
William Williams 1717-91

Tonau [88.88D]:
Cleveland (Lowell Mason 1792-1872)
Salome (alaw Gymreig)

gwelir:
  Rhan I - Mae'r lle sancteiddiolaf yn rhydd
  Rhan II - Y goleuni sy'n ninas ein Duw
  Rhan III - Angylion seraphiaid a saint
  Rhan IV - Wrth gofio dichellion y ddraig

(The glory of Jesus in heaven - Part 5)
Those who followed him
  Through the dens and the
      untrembling flames,
Those who formerly swam to heaven
  In rivers of their own warm blood,
Are now getting to go forward
  Boldly to the Lord's throne;
And singing all the time they are
  New songs to the Lamb.

No thirst, nor hunger, nor pain shall come,
  Nor grief, nor lamenting, nor sickness,
Nor cold, in the temple of the Lord,
  Nor heat to weary them ever again:
There the wings of my Lord are
  Spreading wide like heaven,
Hiding the bride of the Lamb:
  O my soul, fly up!

I am feeling some longing and yearning
  To see my tent's undoing from its place,
And fly straight off,
  Like a bird, to the centre of heaven;
And leap in there in the midst
  Of the throng that are clothed in white,
And sing to my Lord forever
  Who died on Calvary hill.
tr. 2023 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~