Ysbryd y gwirionedd tyred

Ysbryd y gwirionedd, tyred
  Yn dy nerthol, ddwyfol ddawn;
Mwyda'r ddaear sych a chaled
  A bywha yr egin grawn:
    Rho i Seion
  Eto wanwyn siriol iawn.

Agor gyndyn ddorau'r galon
  A chwâl nythle
      pechod cas;
Bwrw bob rhyw ysbryd aflan
  Sy'n llochesu ynddi i maes:
     Gwna hi'n gartref
  I feddyliau prydferth gras.

Tywys Seion i'r gwirionedd,
  At oludoedd meddwl Duw';
Dyro'r manna, gad in yfed
  O ffynhonnau'r dyfroedd byw:
    Dawn yr Ysbryd,
  Bywyd a thangnefedd yw.
John Hughes (Glanystwyth) 1842-1902

Tonau [878747]:
    Holstein (J C Bach 1642-1703)
    Hyder (Richard Ellis 1775-1855)
    Neuadd Wen (David Evans 1874-1948)
    Picardy (Carol Ffrengig)
    Y Delyn Aur (John Thomas 1839-1921)

Spirit of truth, come
  In thy strong, divine gift;
Moisten the dry and hard earth
  And revive the shoots of grain:
    Give to Zion
  Again a very cheerful Spring.

Open the stubborn doors of the heart
  And break down the nesting-place
      of detestable sin;
Cast every kind of unclean spirit,
  Which is lurking in it, out:
    Make it a home
  For beautiful thoughts of grace.

Lead Zion to the truth,
  Towards the riches
      of the thought of God;
Give the manna, let us drink
  From springs of the living waters:
    The gift of the Spirit,
  Life and peace it is.
tr. 2016 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~